Mae gan Oriel Ynys Môn pedair ystafell arddangos broffesiynol, sy’n cyflwyno rhaglen gytbwys o arddangosfeydd yn ymwneud â phob agwedd ar gelf weledol – arlunio traddodiadol a chyfoes, cerflunwaith, print, ffotograffiaeth a chrefftwaith.
Mae’r brif Oriel gelf yn arddangos wyth arddangosfa bob blwyddyn, gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhynglwadol, tra mae'r Oriel Hir a'r Oriel Ganol yn arddangos chwech arddangosfa. Ceir yn Oriel Kyffin Williams, deyrnged barhaol ac addas iawn i un o’r arlunwyr mwyaf poblogaidd ac uchaf ei barch a welodd Cymru erioed.
Mae gan Oriel Ynys Môn gasgliad celf parhaol hefyd, sy’n cynnwys gwaith gan Charles F. Tunnicliffe a'r Chwiorydd Massey, yn ogystal â chasgliad sylweddol o Fôn sy’n cael ei arddangos yn achlysurol fel rhan o’r rhaglen flynyddol.
Rydym wedi darparu copi pdf o'r daflen arddangosfeydd i chi lawrlwytho.Cofiwch gofio i chwilio drwy ein hadain digwyddiadau ar gyfer rhestr cyflawn o phob digwyddiad yn yr Oriel.