Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Barclodiad y Gawres

Porth Trecastell

Bedd dramwyfa groesffurf wedi ei haddurno yw hon ac mae ei lleoliad ar Ynys Môn yn anghyffredin. Ceir beddrodau tebyg yn Iwerddon, ond mae’r rhai a geir mewn mannau eraill ym Mhrydain heb yr addurniadau a geir yma.

Wedi ei haddurno? Gelwir ef yn “gelfyddyd craig” ac mae gan nifer o’r cerrig siambr naddedig farciau siapiau diemwnt a rhai igam-ogam ynghyd â sbiralau.

Mae’r beddrod yn cynnwys tramwyfa hir a chul yn arwain i’r brif siambr a thair ystlys siambr. Mae cloddio yn yr ystlys siamberi bychain yn dangos eu bod wedi eu defnyddio ar gyfer angladdau gan fod esgyrn dau ddyn wedi eu darganfod yma, tra bod y siambr ganolig mae’n debyg, yn cael ei defnyddio i gynnal seremonïau defodol. Mae tystiolaeth yma o dân yn hir losgi a “chawl” od yn cynnwys gwrachen fôr, broga, llyffant, llysywen, neidr wair ac ysgyfarnog!

Mae’r safle yn un o’r safleoedd Neolithig mwyaf anarferol a phwysig yng Nghymru yn dyddio’n ôl i 2500CC .....ac mae’r golygfeydd hudolus yn syfrdanol.

gwybodaeth ddefnyddiol

Porth Trecastell
ger Aberffraw
Map OS 114: SH9707

Am ragor o wybodaeth gwelwch safle we CADW.

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth