Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Carchar Biwmares

Celloedd y merched

Adeiladwyd y carchar Fictorianaidd gan Hansom (enwog am Hansom Cab) ym 1829. Yn y carchar, gellir gweld yr unig olwyn draed wreiddol sy'n dal i fod yn ei man gwreiffiol ym Mhrydain, ac mae crocbren yn dal i fod ynghlwm wrth y wal allanol.

Dewch i Garchar Biwmares...

Bydd y carchar yn dal eu gafael ar eich dychymug am amser maith. Fe gaiff yr ymwelydd gipolwg ryfeddol ar fyd y carcharor yn oes Fictoria.

  • cewch fynd trwy'r adeilad anferth hwn gyda'i gynteddau tywyll, celloedd moel a digroeso a mannau cosbi
  • gallwch ymweld â chell y condemniedig neu brofi tywyllwch y gell cosbi
  • cyffyrddwch â'r cadwyni a'r hualau â ddefnyddiwyd ddiwethaf gan garcharorion ganrif yn ôl

Crogwyd William Griffith yn 1830 am geisio llofruddio un o'i ddwy wraig ac yn 1840 cafodd Gaynor Jones ei charcharu am fis o lafur caled am ddwyn chwart o lefrith. Yn 1862 crogwyd Richard Rowlands am lofruddio ei dad yng nghyfraith. Aeth i'w farwolaeth yn protestio ei fod yn ddieuog.

manylion cyswllt

Steeple Lane
Biwmares
LL58 8EP
 
Ffôn: +44 (0)1248 810921

Ebrill – Medi
Dydd Llun - Dydd Iau; Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10.30am – 5pm (a Dydd Llun gŵyl y banc) neu ar adegau eraill drwy drefniant ymlaen llaw.
Agored pob penwythnos a wythnos hanner tymor yn ystod mis Hydref

{#res=Image, id=756#}

Mynediad:

oedolion: £3.50
Consesiwn a Phlant: £2.75
Teulu: £12

Ceir tocyn ar y cyd ar gyfer y Carchar a'r Llys

Unigolyn: £6
Consesiwn a phlant: £4.50
Teulu(4): £20

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth