Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Mewn awyren

manx2 aeroplane flying 530

Mae Maes Awyr Môn wedi ei leoli yn ne orllewin Ynys Môn ar safle'r Llu Awyr yn y Fali a llai na dwy filltir oddi wrth yr A55. Mae'r maes awyr yn borth i deithwyr busnes a hamdden i ogledd orllewin Cymru a'r holl adnoddau a chyfleusterau sydd gan yr ardal i'w gynnig.

Mae Manx2 yn rhedeg dwy daith y diwrnod, Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Mae'r gwasanaeth o Faes Awyr Môn yn rhoi mwy o ddewis i deithwyr rhwng gogledd Cymru a'r brifddinas, Caerdydd. Dilynwch y dolenni ar y dde.

Mae Maes Awyr Manceinion bellach wedi'i sefydlu fel mynedfa bwysig ar gyfer y DU. Mae'r maes awyr yn ei gwneud hi'n gyfleus i gyrraedd Gogledd Cymru o'r rhan fwyaf o leoedd yn Ewrop, UDA a thu hwnt gyda chysylltiadau trên neu ffyrdd hwylus i gyrraedd pen y daith.

Fel arall, ceir cysylltiadau da rhwng Gogledd Cymru a Llundain a Chaerdydd gyda char neu drên.

Maes Awyr Môn
Ffôn:
0870 777 0915 (Tocynnau)
Gwe: www.manx2.com

Mae gan RAF Valley adnoddau ar gyfer glanio awyren breifat. Bydd angen hysbyseb o 24 awr.
Ffôn: 01407 762241 est 7582

Maes Awyr Lerpwl
Ffôn: 0870 7508484
Gwe: Maes Awyr Lerpwl

Maes Awyr Manceinion
Ffôn:
0161 489 30000
Gwe: Maes Awyr Manceinion

Maes Awyr Caerdydd
Gwe: Maes Awyr Caerdydd

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth