Bywyd gwyllt arfordirol Môn

Pioden y môr
Mae amrywioldeb tirwedd yr ynys yn cael ei adlewyrchu yn amrywiaeth y
bywyd gwyllt sydd i’w weld tra’n cerdded y llwybr arfordirol. I ble bynnag yr ewch, rydych yn debygol o weld rhywbeth diddorol!
Mae morloi llwydion yn gyffredin ar hyd yr arfordiroedd creigiog ac agored, tra gwelir dolffiniaid a llamhidyddion yn y môr. Fe geir nifer o adar môr yn y mannau hyn, tra bo adar dwr ac adar hirgoes yn gyffredin yn yr aberoedd a’r ardaloedd tawelach. Ymhlith y gwir bleserau pluog yw’r nythfa o wenoliaid y môr yng Nghemlyn yn y gwanwyn, ynghyd â’r frân goesgoch a’r hebog tramor o gwmpas arfordir creigiog Ynys Cybi ac arfordir y gogledd.
Mae Ynys Môn yn ardal bwysig yn y DU am ei rhosydd arfordirol. Yn y gwanwyn, cadwch olwg am y planhigyn mwyaf nodweddiadol hwnnw o blith rhai sy’n tyfu ar rosydd arfordirol, y blodyn glas siâp seren, sy’n fach ond yn doreithiog yn aml, sef serennyn y gwanwyn, sy’n aelod o deulu’r lili. Fe welwch rosydd arfordirol mewn amryw fannau ar hyd y Llwybr, ond yn enwedig ar yr arfordiroedd sy’n wynebu’r gogledd. Mae’r glöyn byw, y glesyn serennog, yn mwynhau’r amgylchedd hwn, ac os ydych yn wirioneddol lwcus, fe allwch gael cip o wiber yn torheulo yma. Yn swatio yn y brigiadau creigiog hwyrach y gwelwch fadfall neu ddau, neu hyd yn oed ddod o hyd i’r cor-rosyn rhuddfannog prin. Un peth y byddwch yn sicr o sylwi arno yw’r cymylau pinc o glustog Fair – sy’n gyffredin yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf ar hyd y clogwyni sy’n wynebu’r gorllewin – ac sy’n tyfu’n syth allan o’r llethrau pridd ger yr arfordir.
Mae arfordir gorllewin Ynys Môn yn ymfalchïo yn ei lecynnau eang o dwyni tywod. Mae’r twyni hyn o bwys rhyngwladol ac maent bellach wedi’u dynodi gan yr Undeb Ewropeaidd yn Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA). Ymhlith y pethau i gadw golwg amdanynt y mae sawl aelod o deulu’r tegeirian, mwsoglau a chennau anghyffredin, ynghyd â phlanhigion prin fel tafolen y twyni ac eiddilwellt cynnar. Mae’r twyni’n enwog am amrywiaeth yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac am adar fel yr ehedydd a chorhedydd y waun. Yr enghreifftiau gorau yw’r twyni eang iawn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ac yn Aberffraw.
Yn olaf – ond nid lleiaf o ran diddordeb – mae’r Llwybr Arfordirol yn pasio drwy ddwy goedwig goniffer ym Mhentraeth a Niwbwrch lle, os ydych yn lwcus, fe allwch weld gwiwer goch neu ddwy.
Y 10 prif leoliad o ran eu bywyd gwyllt
- Bae Cemlyn – glan greigiog, traeth graeanog, lagn, rhos, nythfa o wenoliaid y môr, morloi llwydion
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) gyfan Niwbwrch / aber Malltraeth – aber mwdlyd, morfa heli, coedwig goniffer, twyni tywod, adar y glannau a’r môr, adar hirgoes, adar dwr, gwiwerod coch, blodau gwyllt
- Ynys Lawd – clogwyni, rhos arfordirol, nythfa o adar môr, blodau gwyllt
- Traeth Coch – traethellau lleidiog, morfa heli, coedwig, adar hirgoes ac adar dwr, gwiwerod coch
- Twyni Aberffraw – system dwyni tywod, blodau gwyllt
- Ynys Tysilio, Porthaethwy – coetir, culfor llanwol, glannau creigiog, adar môr a choetir, y bywyd ar ei glannau
- Trwyn Penmon – glan greigiog, ynys o’r lan, llecyn eang o brysgoed, adar ymfudol, adar môr, morloi llwydion
- Y Môr Mewnol – culfor llanwol tywodlyd, da ar gyfer adar hirgoes
- Aber Dulas – aber tywodlyd, morfa heli, adar hirgoes ac adar dwr
- Dinas Gynfor – penrhyn creigiog, rhos arfordirol, y frân goesgoch, blodau gwyllt