Dyma adeilad llawn atgofion a chyfrinachau trist, sy’n rhoi cipolwg rhyfeddol ar fyd y carcharor yn yr 1800au.
• Cerddwch ar hyd y cynteddau tywyll i weld y celloedd moel a di groeso a mannau cosbi.
• Ymwelwch a chell y condemniedig a phrofi tywyllwch y gell gosb.
• Yn 1862 dienyddiwyd Richard Rowlands am lofryddio ei dad-yng-nghyfraith. Haerai Rowlands ei fod yn ddi-euog, ac yn ol y traddodiad lleol fe felltithiodd y cloc yn nhwr yr eglwys gyferbyn a’r grocbren. Nid yw’r cloc wedi cadw at ei amser ers hynny.