Codi Sbwriel ar y Llwybr Arfordirol
Ers ei sefydlu, mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn wedi cynnal rhaglen codi sbwriel ar hyd y Llwybr Arfordirol a thraethau sydd yn cysylltu â fo. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhaglen wedi datblygu ac ymestyn gyda chymorth nifer o grantiau gan Cadwch Gymru’n Daclus, sydd hefyd yn darparu yswiriant ar gyfer y cyfan o’n gweithgareddau.
Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn codi sbwriel bob mis ar gyfartaledd naill ai ar fore dydd Mercher, neu ddydd Sadwrn, ac mae pob sesiwn yn parhau oddeutu 2-3 awr. Rydym yn trefnu i Grŵp Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn gasglu popeth yr ydym yn ei godi ar yr un diwrnod. Yn aml iawn, rydym yn cael cefnogaeth gan ac yn ymgynghori gyda grwpiau sydd o’r un anian ar Ynys Môn. Mae croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau ddod i ymuno hefo ni. Mae boddhad personol mawr i’w gael o adfer ardal sydd wedi mynd yn flêr oherwydd effaith y gwyntoedd a’r llanw i’w chyflwr naturiol pur. Yn ychwanegol at hyn, mae’r sawl sy’n cerdded ar y Llwybr Arfordirol yn cael profiad brafiach o lawer.
Ceir gwybodaeth ar y gweithgareddau codi sbwriel sydd wedi cynllunio isod a cheir manylion pellach ar wefan Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn:
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/litter-picks
Darperir offer codi sbwriel, menig a bagiau ond a fyddech cystal, os gwelwch yn dda, a gwisgo dillad addas ac mae’n syniad da dod â bwyd/diod.
Ymholiadau pellach i: Wenda 01407 860175; Carolyn 01407 860796; neu John 01248 712793 a hefyd yn angleseycoastalpath@gmail.com
Hoffem gael gwybod am unrhyw rannau o’r Llwybr Arfordirol lle mae sbwriel yn broblem reolaidd ynghyd ag awgrymiadau penodol ar gyfer lle i godi sbwriel yn y dyfodol.
Cagliad Sbwriel 2012
Does yna ddim teithiau cynllun casglu sbwriel arferol ar y gweill ar hyn o bryd gan fod yr y teithiau ar y 125 milltir o lwybr arfordirol yn mynd ymlaen - cewch fwy o fanylion ar safle we y Cyfeillion
Gellir gweld lleoliadau map yr holl fannau cyfarfod ar wefan y Cyfeillion:
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/calendar
Bydd ffyn, bagiau a..y.b. ar gael, gwisgwch ddillad addas, mae mennyg yn ddefnyddiol. Cofiwch ddod â lluniaeth a diod.
Am fanylion am sesiynnau dydd Sadwrn cysylltwch â John 01248 712793
jandgpayne@btinternet.com. Am fanylion dyddiau Mercher, cysylltwch â Wendy 01407 860175 neu Carolyn 01407 860796
Pe byddai gan rhywun syniad am ardal sydd angen ei glirio: llwybrau glannau môr a.y.y.b, cysylltwch â'r uchod os gwelwch yn dda.