Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Porth Amlwch

Mae Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn grŵp a sefydlwyd ym Mehefin 2005 gan nifer fechan o bobl Ynys Môn, gyda chefnogaeth Menter Môn.

Prif bwrpas y grŵp yw cynorthwyo pobl sydd â diddordeb i chwarae rôl fwy gweithredol o ran datblygu'r llwybr 125 milltir o amgylch Ynys Môn.

Mae'r amcanion yn cynnwys:

  • bod yn llais cefnogol, annibynnol ar gyfer y llwybr arfordirol 
  • ymgyrchu am statws Llwybr Cenedlaethol 
  • codi ymwybyddiaeth o'r llwybr a'i ddatblygiad trwy gynlluniau machnata 
  • datblygu gwybodaeth addysgiadol mewn perthynas â'r llwybr sy'n cynnwys meithrin perthynas dda rhwng defnyddwyr, perchnogion tir a ffermwyr sy'n denantiaid tir 
  • hyrwyddo gweithgareddau fel teithiau cerdded, sgyrsiau a dyddiau i wirfoddolwyr 
  • datblygu gwasanaeth warden anffurfiol 
  • codi arian ar gyfer prosiectau arbennig 
  • hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru ar hyd y llwybr
Os hoffech fod yn gysylltiedig â'r prosiect yna ymunwch â ni a bod yn 'Gyfaill'? 

Am eich aelodaeth gellwch ddisgwyl:

  • copi am ddim o'r llyfryn 'Aweiniad i Lwybr Arfordirol Ynys Môn' 
  • disgownt ar y llawlyfr swyddogol 
  • cylchlythyr rheolaidd 
  • cyfleon i fynd ar deithiau tywys, dyddiau i wirfoddolwyr a sgyrsiau ar y llwybr arfordirol

Mae yna pump categori o aelodaeth:

  • A: Aelod llawn £7
  • B: Ail aelod yn yr un cyfeiriad £5
  • C: Aelod iau £5
  • D: Aelod hŷn £5
  • E: Teulu (2 oedolyn, 2 o blant) £15
Bydd eich aelodaeth chi yn cefnogi datblygiad parhaus y llwybr arfordirol.

Wedi i chi ei chwblhau, a fyddech cystal ag anfon y ffurflen gais ynghyd â siec yn daladwy i 'Gyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn' i:

Jon Pinnington, Ysgrifennydd, Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn, d/o Menter Môn, Parc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni. LL77 7XA.
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr
Mae gan y Cyfeillion tudalennau gwe eu hunain!

Cyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :