Siopau arbennig annisgwyl
Pe byddai’n rhaid i chi gynllunio tref glan môr, efallai y byddai’r dref honno’n edrych yn debyg i Fiwmares. Ond byddai’n rhaid i’ch cynllun fod yn greadigol i gael tref mor arbennig â hon.
Golygfeydd godidog ar draws y Fenai i gyfeiriad Eryri. Un o
gestyll canoloesol gwychaf y byd. Pier Fictoraidd sydd newydd gael ei adnewyddu am gost o tua £2 filiwn. Tref sy’n enwog ym Môn am ei bwytai.
A siopau. Siopau go-iawn, nid y siopau cadwyn sydd i’w gweld ym mhob man. Siopau unigryw sy’n llawn o nwyddau arbennig.
Siopau fel
Unique-Kids, sy’n teimlo fel ystafell wely plentyn gyda llong môr-ladron fel cownter. Mae’n cynnig dewis o ddillad plant sy’n cael eu cynllunio a’u gwneud yn Ynys Môn. Neu
Oriel Janet Bell ar Stryd Castell sy’n gwerthu golygfeydd arbennig o Fiwmares a morluniau eraill gan yr artist ei hun.
Gŵr a gwraig, Brian a Fiona Thomas sy’n rhedeg
Moo Baa Oinc. Maen nhw’n gwerthu eu cig oen a’u cig eidion Gwartheg Duon eu hunain yn y cownter cig ac yn ei gynnig ar y fwydlen yn y caffe. Mae’r siop yn llawn o bob math o nwyddau arbennig gan gynhyrchwyr lleol …gallwch hyd yn oed brynu rygiau croen dafad organig eu defaid eu hunain.
Perffaith ar gyfer nosweithiau tywyll hir. Ond yng nghanol yr haf, ar ôl bod yn siopa yn y bore, efallai y byddwch am fynd i’r
Red Boat.
Siop hufen iâ yw hon sy’n perthyn i Tony a Lyn Green ac yn sicr mae wedi gwneud ei marc ym Miwmares ers iddi agor yn 2009. Mae sorbed gin a tonic Tony sy’n cael ei wneud gyda lemonau ffres a gin Gordon yn unigryw.
Nid hufen cyffredin mo hwn, yn hytrach “gelato”. Caiff ei wneud yn yr un ffordd â hufen iâ Eidalaidd gan ŵr a fu’n astudio ym Mhrifysgol enwog Carpigiani.
“Dim ond y cynhyrchion gorau yr ydym yn eu defnyddio ac mae pob un hufen iâ’n cael ei wneud yn ffres â llaw ar y diwrnod,” meddai Tony. “Yn ogystal â’r blasau traddodiadol, rydym wastad yn ceisio cynnig blasau newydd, mentrus a chyflwyno cysyniadau newydd.”
Fel Biwmares ei hun, nid parlwr hufen iâ fanila mo Red Boat. Mae'n cynnig rhywbeth gwahanol, annisgwyl. Gallai hynny fod yn sgŵp o helygen y môr ac oren. Neu’r un y mae Tony wedi llwyddo i’w berffeithio ar ôl dwy flynedd gron - hufen iâ blas lafant.