Mae
Ynys Môn yn ‘Barc Daeareg’ rhyngwladol dynodedig gydag amrywiaeth syfrdanol o
greigiau hynafol. Mae’r ynys yn denu
daearegwyr ar draws y byd a bydd o ddiddordeb i unrhyw un sydd â diddordeb yng
nghramen y ddaear. Am ragor o wybodaeth ewch
i wefan Geomôn www.geomon.co.uk.
Mae’r
creigiau gorau a mwyaf rhyfeddol a ffurfiadau daearegol i’w canfod ar
‘safleoedd daearegol’ yr ynys y gellwch eu harchwilio eich hun:
Clogwyni
Ynys Lawd – Gwelwch y creigiau a blygwyd, trawiadol ar y clogwyni sydd 100m o
uchder ar Ynys Lawd, ger Caergybi. Yn
ystod yr haf mae’r creigiau hyn yn darparu silffoedd nythu i wylogod, llursod,
brain coesgoch a’r hebog tramor. Gellir
parcio yng ngwarchodfa’r Gymdeithas Frenhinol Amddiffyn Adar.
Mynydd
Parys – Profwch diriogaeth anghyfannedd anghyffredin y mwynglawdd hynafol ar
Fynydd Parys, gyda’i ddrifftiau eirias o greigiau oren a rhuddgoch a phyllau gwaedlyd coch. Gellir parcio ychydig oddi ar y ffordd fawr i
Amlwch. Mae amrywiaeth o lwybrau a
ddefnyddiwyd yn helaeth o gwmpas y mynydd yn ogystal â gwybodaeth mewn gwahanol
fannau.
Niwbwrch
ac Ynys Llanddwyn – Ewch ar ymweliad ag Ynys Llanddwyn gyda’i ffurfiadau
creigiau ‘lafa clustog’ a chreigiau sy’n brigo yng Nghoedwig Niwbwrch. Gallwch
weld eiliadau wedi eu rhewi mewn amser ryw 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl! Cerddwch o faes parcio Traeth Niwbwrch.
Meini
Crwydr - Edrychwch am ‘feini dyfod’ –
clogfeini hynafol a gludwyd o’r gogledd ar rewlifoedd yn ystod oesoedd iâ’r
gorffennol a’u gadael ar ôl wrth i’r rhew encilio i’r Alban. Gellwch eu gweld ar leoliadau gwahanol ar yr
ynys gan gynnwys traeth Lleiniog, ger Biwmares, ac un mawr mewn encilfa ar
ffordd ddeuol yr A55.