Diogelwch ar y llwybr arfordirol
Dinas Gynfor, ger Cemaes
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn, fel y gellid disgwyl, yn pasio drwy dirwedd wyllt a gwefreiddiol. Mae rhai rhannau o’r llwybr yn anghysbell, gydag ychydig neu ddim arwyddion o fywyd dynol. I lawer, dyma ran o’i hapêl. Er mwyn i chi fwynhau’r llwybr i’r eithaf, fe baratowyd y tudalennau a ganlyn i’ch helpu ar eich ffordd.