Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Diogelwch ar y llwybr arfordirol: llanwau

Traeth Coch

Hwyrach na fyddech yn synnu o wybod fod y llwybr arfordirol yn cael ei effeithio gan y llanw. Mae 10% (tua 12 milltir / 20km) o’r llwybr yn dilyn ymyl y traeth, ac o hyn, mae tua 6 milltir / 10km ar y blaendraeth (‘foreshore’) ei hun hy rhwng y penllanw a’r distyll.

O 12 rhan y Llwybr, mae pob un ac eithrio un yn cael eu heffeithio i ryw raddau yn ôl p’un a yw’r llanw i mewn neu ar drai.  Fodd bynnag, dim ond ar rannau 1 a 6 y mae rhwystrau sylweddol y mae angen cynllunio’n ofalus ar eu cyfer.

Os digwydd i chi gael eich dal gan y llanw, peidiwch â chynhyrfu.  Os cyrhaeddwch ran ac mae’r llanw i mewn, mae i’r mwyafrif o leoliadau ddewisiadau eraill drwy fynd i mewn i’r tir.  Os allwch weld y llanw yn dod i mewn yn gyflym iawn, cymrwch y llwybr byrraf i fynd oddi wrtho.  Cofiwch, os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â rhoi cynnig arni!  Fel ym mhob achos, mewn argyfwng ar yr arfordir, deialwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

Am wybodaeth ynghylch cyfyngiadau llanw sy’n cael effaith ar y llwybr arfordirol, dilynwch y ddolen isod.

Cyfyngiadau'r llanw ar y Llywbr Arfordirol
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :