Mae Maes Awyr Môn wedi ei leoli yn ne orllewin Ynys Môn ar safle'r Llu Awyr yn y Fali a llai na dwy filltir oddi wrth yr A55. Mae'r maes awyr yn borth i deithwyr busnes a hamdden i ogledd orllewin Cymru a'r holl adnoddau a chyfleusterau sydd gan yr ardal i'w gynnig.
Mae Manx2 yn rhedeg dwy daith y diwrnod, Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Mae'r gwasanaeth o Faes Awyr Môn yn rhoi mwy o ddewis i deithwyr rhwng gogledd Cymru a'r brifddinas, Caerdydd yn ogystal â chynnig linc i Maes Awyr Caerdydd a'r posibilrwydd o deithio ymhellach. Mae Manx2 hefyd yn trefnu gwasanaeth yn ystod yr hâf rhwng Ynys Môn ac Ynys Manaw a Belfast.
Am amseroedd hedfan cyfredol ac ein cyrchfannau hedfan diweddaraf dilynwch y dolenni ar y dde am Manx2
I rai sy'n teithio i Ynys Môn o gyrchfannau eraill, mae Maes Awyr Manceinion wedi'i sefydlu fel mynediad pwysig i'r DU. Mae'r maes awyr yn ei gwneud hi'n gyfleus i gyrraedd Gogledd Cymru o'r rhan fwyaf o leoedd yn Ewrop, UDA a thu hwnt gyda chysylltiadau trên neu ffyrdd hwylus i gyrraedd pen y daith. Fel arall, ceir cysylltiadau da rhwng Gogledd Cymru a Llundain a Chaerdydd gyda char neu drên.
Am y wybodaeth diogelwch diweddaraf, ac am unrhyw anghenion arbennig, gweler gwefannau'r cludwyr unigol, gan fod amseroedd bwcio i mewn a gwybodaeth arall yn gallu amrywio.