Yn ffodus mae gennym fyddin o wirfoddolwyr sy’n fodlon torchi eu llewys a gwneud hynny, e.e. codi sbwriel, codi waliau sych, clirio prysg, gosod byrddau cerdded.
Nid pobl leol yn unig yw’r gwirfoddolwyr, ond ymwelwyr hefyd. Felly os nad yw gorwedd ar draeth drwy’r dydd yn apelio atoch, ewch i wefan AHNE neu mynnwch gopi o’r newyddlen Sŵn y Môr.