Yn ogystal, mae dros 100 o longddrylliadau o gwmpas ein harfordir, sy'n gweithredu fel ffug-riff, yn cysgodi rhywogaethau fel y Morlas, Honos, Llysywen Bendoll, Penfras, Huss a'r Celog. Hefyd mae pysgod mwy cyffredin i'w gweld, yn cynnwys Draenogiaid y Môr, Môr-wyniaid, Llythen, Morgi, Chwyrnwr, Penfras Ifanc a Mecryll. Mae rhan fwyaf o'r llongdrylliadau o fewn cyrraedd i'r cychod siarter fydd yn teithio o amryw rannau'r ynys.
Ar y Môr agored, mae pysgota yn gyffrous i'r pysgotwyr a'r sgiper fel ei gilydd. I ymwelwyr gyda'u cychod eu hunain, pysgota'r glannau yw'r dewis gorau.