Rhwydd fynediad i'r llwybr arfordirol
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn ar hyn o bryd yn 125 milltir o hyd ac yn cynnwys 60 milltir o hawliau tramwy cyhoeddus (llwybrau cyhoeddus yn bennaf), 28 milltir o briffyrdd cyhoeddus, 9 milltir o lwybrau caniataol, a 28 milltir o mynediad eraill yn cynnwys tir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Comissiwn Coedwigaeth.
Felly llwybr cerdded hirbell yw hon yn bennaf. Mae gan y Llwybr 1020 darn o ddodrefn llwybr – giatiau, camfeydd, arwyddbyst, pontydd.
Cerddwyr
Yn gyffredinol
Mae’r llwybr cyfan yn cynnwys llwybrau ar dir gweddol isel, gyda’r pwynt uchaf ar Fynydd Twr (220m / 720ft). Ymhlith y rhannau mwyaf heriol y mae Mynydd Twr, Porth Swtan i Ben Bryn yr Eglwys, Llanbadrig i Borthwen, i’r de o Drwyn Eilian a’r codiad i Fwrdd Arthur o Draeth Coch. Ymdrechir i leihau nifer y camfeydd, lle bo modd, a lle mae angen terfyn, mae giatiau yn cael eu gosod yn eu lle.
Mynediad hawdd
Fe geir
nifer o rannau o’r llwybr arfordirol lle mae’r tir yn weddol wastad, ychydig iawn o ddodrefn llwybr sydd arni, ac mae rhwydwaith y llwybr yn caniatáu cylchdeithiau cyfleus o lai na 2 milltir.
Mynediad gyda chadeiriau olwyn
Gan fod cryn dipyn o’r llwybr arfordirol yn mynd dros wynebau naturiol – o fewn caeau, dros draethau – nid yw’n arbennig o addas ar gyfer rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Fe geir
nifer fechan o safleoedd lle gwnaed darpariaeth yn benodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn sy’n dymuno mwynhau’r llwybr arfordirol.
Seiclwyr
Fe all seiclwyr fanteisio ar bob rhan o’r llwybr arfordirol sydd ar ffyrdd, sy’n cynnwys rhai lonydd cefn a chanddynt olygfeydd bendigedig. Fe ganiateir seiclo yng nghoedwig Niwbwrch (sef rhan 9 o’r llwybr arfordirol). Er nad yw y rhan fwyaf o weddill y llwybr arfordirol yn addas o gwbl i seiclwyr, mae llwybr beics newydd – Lôn Las Cefni – yn croestorri’r llwybr arfordirol yng nghoedwig Niwbwrch ac ym Malltraeth. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Menter Môn ar (01248) 725700.
Marchogion
Fel yn achos seiclwyr, fe all marchogion fanteisio ar y rhannau o’r llwybr arfordirol sydd ar ffyrdd, gyda’r cyfle ychwanegol i ddefnyddio’r rhannau ar draethau i wneud cylchdeithiau. Fe ganiateir marchogaeth ceffylau, drwy system drwydded, o fewn Coedwig Niwbwrch. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chymdeithas Farchogaeth Traeth Rhosyr ar (01248) 440 668. Fe geir trwyddedau wythnosol hefyd yn Swyddfa Bost Niwbwrch.