Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Sut i gyrraedd a gadael Maes Awyr Môn

Sut i gyrraedd Maes Awyr Môn gyda char


Os ydych yn teithio i'r maes awyr gyda char dilynwch yr A55 hyd at gyffordd 4, ac yna arwyddion am Lu Awyr y Fali. Gyrrwch trwy bentref Llanfihangel yn Nhowyn (tua hanner milltir). Byddwch yn gyrru dros bont fechan dros y rheilffordd. Cymerwch y troad nesa i'r chwith a gyrrwch yn syth ymlaen i fynedfa'r maes awyr.

Sut i adael Maes Awyr Môn gyda char


Gadewch y maes parcio a gyrrwch heibio mynedfa Llu Awyr y Fali ar y dde nes cyrraedd y lôn fawr. Trowch i'r dde a gyrrwch dros bont y rheilffordd. Gyrrwch trwy bentref Llanfihangel yn Nhowyn (tua hanner milltir) ac yna at gylchfan sydd yn eich arwain i'r A55.

I deithio mewn cyfeiriad gorllewinol tua Chaergybi - cymerwch yr allanfa i'r chwith o'r gylchfan sydd wedi'i arwyddo'n glir - A55 Caergybi/Holyhead.

I deithio i gyfeiriad dwyreiniol tua Llangefni a Phorthaethwy, cymerwch yr allanfa o'r gylchfan sy'n eich tywys dros y brif ffordd A55 tuag at ail gylchfan. Cymerwch yr allanfa sydd wedi'i arwyddo yn glir - A55 Bangor.

Côd Post ar gyfer satnav - LL65 3NX

Cyswllt i safle gwe Bing map yn dangos lleoliad Maes Awyr Môn

Cyswllt i safle gwe Google Map yn dangos lleoliad Maes Awyr Môn

Am wybodaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus, tacsis a llogi car, gweler y tudalennau perthnasol yn y llyw ar y chwith.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Z Green - lawrlwythwch cyfeirlyfr

gwybodaeth ddefnyddiol

Citywing
Gweithredwr teithiau
Ffôn: + 44 (0)871 200 0440 (tocynnau)
Ebost (tocynnau): reservations@citywing.com 
Gwe: www.citywing.com

RAF Valley
Mae gan RAF Valley adnoddau ar gyfer glanio awyren breifat. Bydd angen hysbyseb o 24 awr.
Ffôn: 01407 762241 est 7582

Maes Awyr Lerpwl
Ffôn: 0870 7508484
Gwe: Maes Awyr Lerpwl

Maes Awyr Manceinion
Ffôn: 0161 489 30000
Gwe: Maes Awyr Manceinion

Maes Awyr Caerdydd
Gwe: Maes Awyr Caerdydd

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :