Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Swtan

Amgueddfa Werin Swtan, Porth Swtan

Erbyn hyn, wedi ei adfer gan Gyfeillion Swtan, mae’n amgenach lawer na rhyw amgueddfa werin fechan, hen ffasiwn. Mae’n cynrychioli ffordd o fyw caled gwerinwyr ym Môn a hynny ddim ond can mlynedd yn ôl.

Mae cefnogwyr a chyfeillion prosiect Swtan, gyda chymorth cronfa Ewropeaidd, wrth droi’r cloc yn ôl i 1910 gyda chelfi, ffabrigau, llestri, padelli a darluniau wedi sicrhau fod sylw i fanylion wedi bod yn flaenoriaeth. Felly, pan gyrhaeddwch yno a mynd i mewn, allwch chi ddim ond dychmygu sut y byddai teulu bach yn gallu goroesi heb ddŵr, tŷ bach na llofftydd ac yn byw ar friwsion prin ychydig anifeiliaid, cae bychan a gardd berlysiau. Roeddynt yn gwneud, atgyweirio, golchi, coginio a magu anifeiliaid - y cwbl gyda llaw.

Yr hyn wynebodd yr adnewyddwyr ar y cychwyn oedd to tyddyn wedi disgyn, gan fod y prif drawst, - hen fast hwylio - wedi pydru.
Yn fuan iawn, cydiodd yr her yn nychymyg ac egni’r bobl leol, ac adfer ei gyflawni.

Y tu allan, fe fyddwch yn darganfod rhai o hen offer amaethu a physgota - yr angenrheidiau lleiaf posibl bywyd syml, yn ddibynnol ar ddim mwy nag a allai natur ei ddarparu.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn

manylion cyswllt

Porth Swtan
Rhydwyn
 
Ffôn:  +44 (0)1407 730186 
E-bost: swtan@hotmail.co.uk
 

oriau agor

Mis Mehefin i Mis Medi

Dydd Mawrth i Ddydd Sul, 12 – 4pm

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :