Rydym yn meddwl am Ynys Môn fel ynys sy'n cynnig bob math o weithgareddau. Os treuliwch chi ychydig o ddiwrnodau yma fe welwch fod hynny’n wir.
Ond mae pobl yn gallu anghofio mai ynys yw hon – y fwyaf oddi ar arfordir Cymru, fel y mae’n digwydd – a hynny oherwydd ei bod mor hawdd croesi yma.
Ond nid felly’r oedd hi yn y gorffennol. Cyn 1826, pe byddech chi’n sefyll ar y tir mawr ac yn edrych draw ar yr ynys, byddai cryn her yn eich wynebu.
Yr unig ffordd i groesi’r Fenai oedd mewn cwch neu pan fyddai’r llanw ar drai. Ac roedd yr afon lanwol hon, gyda’i cherrynt cryf, ei throbyllau a’i chreigiau cudd, yn un o’r rhai mwyaf peryglus ym Mhrydain.
Yna daeth Thomas Telford i’r adwy. Adeiladodd
Bont y Borth gan gysylltu dwy ran o’r A5 ar ei thaith hir o Lundain i Gaergybi. Roedd y bont yn arbed naw awr.
Mae’r bont grog haearn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Dyma’r bont gyntaf yn y byd i gael ei chodi ar y fath raddfa. Rhwng y tyrrau calchfaen mae 16 o gadwyni enfawr, sy’n cynnal rhychwant o 176 metr. Mae'n ddigon uchel i longau hwylio 100 troedfedd fynd oddi tani’n ddiogel.
Cyflawnodd Telford gampwaith. Ond 24 mlynedd yn ddiweddarach aeth Robert Stephenson ati i adeiladu
Pont Britannia, oedd yn cynnwys tair miliwn o rybedion.