Rydym yn edmygu archwilwyr y
Faner Las. Nid gwaith hawdd yw pwyso a mesur mwy na 30 o feini prawf gwahanol ar gyfer ansawdd y dŵr, rheoli sbwriel, rheoli cŵn a moeseg amgylcheddol tra bod y gweddill ohonom yn gorweddian ar gadeiriau haul neu’n codi cestyll tywod. Mae archwilio traethau Môn yn siŵr o fod yn dasg anodd. Mae 125 milltir o forlin o bob maint a siâp.
Baeau bach a childraethau creigiog. Traethau tywod hir. Yn Niwbwrch mae traeth gyda choedwig wrth ei ymyl. Ac yn 2011 llwyddodd chwech ohonynt i gael y Faner Las.
Benllech, Swtan, Llanddona, Llanddwyn, Port Dafarch a Bae Trearddur. Heb sôn am y saith traeth a gafodd Wobr Glan Môr oherwydd eu bod yn lân, yn ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda. Yna'r 16 a gafodd Wobr Arfordir Gwyrdd am eu traethau gwledig naturiol.
Diolch byth nad oes raid i’n harchwilwyr fesur ansawdd yr hufen iâ neu’r pyllau glan môr. Byddai’r gwaith yn ddiddiwedd. A beth bynnag, mae’r cyfryngau’n rhoi sylw i hynny.
Er enghraifft, yn ôl papur newydd The Times, cafodd cilfach gysgodol Porth Dafarch ei gynnwys yn y rhestr ‘The 40 Best British Beaches’. Ac yng nghylchgrawn Coast, roedd traeth Lligwy wedi ei gynnwys yn un o’r ‘10 Best Picnic Spots by the Sea’.
Roedden nhw'n canmol y rholiau selsig a chig moch yn y caffi ar y traeth gwastad braf hwn (sy’n berffaith i badlo ynddo). Roedden nhw hefyd yn hoffi’r cacennau cartref a hufen iâ
Plas Farm. Ac oedden, roedden nhw’n hoffi’r pyllau glan môr hefyd.
Wnaethon nhw ddim hyd yn oed sôn am y gorad, yr ynys lle gallwch weld morloi, dolffiniaid a llamhidyddion - neu’r cwt ar y traeth sy’n gwerthu popeth o fyrddau corff i lochesi gwynt. Efallai eu bod yn mynd i gysgu ar ôl yr holl fwyd.