Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Mynydd Parys

Y Deyrnas Gopr Amlwch

Ystyrid Amlwch unwaith gan gartograffydd a swyddog tollau lleol o’r ddeunawfed ganrif, fel lle nad oedd yn haeddu cael ei gynnwys ar fap o borthladdoedd cysgodol ar gyfer llongau a morwyr gan nad oedd ond "cilfach syml rhwng dwy graig".

Newidiodd Rowland Puw, mwynwr lleol hynny, gan iddo yntau fel y Rhufeiniaid o’i flaen, ddarganfod haen gopr gerllaw ym Mynydd Parys. Bu “darganfyddiad” Mr Puw yn gyfrifol am wneud Amlwch am gyfnod byr a thanbaid yn y ddeunawfed ganrif, yn un o brif safleoedd mwyngloddio pwysicaf y byd. Gwobrwywyd ef am ei fenter gyda photel o wisgi a llety am ddim.

Yn naturiol fe wnaeth cyfreithiwr lleol, yr entrepreneur Thomas Williams, a adweinid fel “Tom Chware Teg” dipyn yn well na Mr Puw.

Roedd angen copr ym mhobman. Roedd y chwyldro diwydiannol ar droed, roedd arian yn cael eu bathu ac roedd Nelson angen gorchuddion copr i’w longau. Roedd cymaint â 40 o gargo copr mewn llongau cario dail tybaco yn gallu bod wedi eu hangori yn Amlwch, a chymaint oedd y dagfa fel y pasiwyd Deddf Seneddol i ehangu mynediad a maint angorfa Amlwch. Roedd y “gilfach syml rhwng dwy graig” bellach ar bob map morol.

Tarddiad y copr oedd Mynydd Parys, lle’r oedd ryw 1500 o ddynion a merched yn cael eu cyflogi dan amgylchiadau peryglus. Roedd y dynion yn cloddio am y copr a’r “Boneddigesau Copr” y golchi’r mwyn.

Mae etifeddiaeth oes gopr Amlwch yn goch llachar, oren a phorffor ar dirwedd lleuad Mynydd Parys.
Mae bellach yn denu ymwelwyr a chyfarwyddwyr ffilm - mae’n lleoliad afreal, ac mae hanes anhygoel Amlwch yn cael ei adrodd yng nghanolfan arddangos yr hen Lofft Hwylio. Neu’n syml, cerddwch y llwybr treftadaeth.
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Ganolfan Ymwelwyr y Lloft Hwyliau
Porth Amlwch
Amlwch
LL68 9DB
 
Ffôn: +44 (0)1248 725758
 

oriau agor

Mae pob rhan o Deyrnas Copr Amlwch yn agored bob dydd unrhyw amser, ond am Ganolfan Ymwelwyr y Lloft Hwyliau sydd ar agor:

Pasg i Sulgwyn: 10am – 2pm

Sulgwyn i ddiwedd Medi: 10am-5pm

Am amseroedd agor allan o’r tymor, rhowch alwad i ni os gwelwch yn dda
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :