Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Hawdd yw beicio.... 

Lôn Las Cefni yw un o'r llwybrau beicio i deuluoedd gorau i'w gael yn unrhyw le. Mae'r llwybr beic yn wastad am y rhan fwyaf o'i 13 milltir gydag ychydig o filltiroedd oddi ar y ffordd, felly nid oes angen poeni am draffig. Mae'n ymdroelli drwy rai o olygfeydd mwyaf ysblennydd yr ynys mewn dim ond dwy awr o bedlo didrafferth.

Roedd John Evans o Langefni yn sicr wedi cael argraff dda. Roedd o a'i dri o blant Cara (10), Harri (9) a Catrin (8) yn seiclo Lôn Las Cefni am y tro cyntaf. "Mae'n ddiwrnod braf ac rydym yn cymryd y cyfle i chwilota," meddai. "Mae hwn yn gyfle gwych iddyn nhw i gyd i feicio’n ddiogel."

Roedd y plant, yn y cyfamser, yn edrych ymlaen at hufen iâ, "Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn," dywedodd Cara, sydd, i fod yn onest ddim yr ymateb arferol a geir pan fydd plant ac ymarfer corff yn cyfuno.

Mae Lôn Las Cefni yn cychwyn yn Niwbwrch, yn pasio drwy Goedwig Niwbwrch (edrychwch am y gwiwerod coch) ac yn teithio ochr yn ochr â'r warchodfa gwlypdir RSPB Malltraeth Marsh wetland reserve, cyn gwyro tuag Afon Cefni - mae'r darn yma wedi'i ehangu yn arbennig ar gyfer beicio. Mae'r tair milltir olaf, y tu hwnt i Langefni, yn ychydig yn fwy serth na'r gweddill, ond mae'r ymdrech yn werth chweil.

O goetir hynafol gwarchodfa natur Nant y Pandy, ydych yn teithio drwy ddolydd, ar hyd y ceunant afon, a thros bontydd newydd eu hadeiladu cyn cael eich gwobrwyo gyda golygfeydd trawiadol ar lan Llyn Cefni.

D'oes ryfedd ei fod wedi cymryd pum mlynedd a tua £2 filiwn i'w greu. Mae'n dangos pa mor ddifrifol yr ydym yn cymryd ein beicio, a pha mor boblogaidd yw ein hynys donnog, gyda'i ffyrdd tawel gwledig, ymysg beicwyr.

Llwybr beicio linellol yw Lôn Las Cefni ond mae gennym bedwar lwybyr cylchdaith a enwyd ar ôl adar. Nico (Goldfinch), Gïach (Snipe), Hebog (Falcon) a Thelor (Warbler). Mae'r holl lwybrau tua 12 milltir o hyd, ac maent yn cynnig ffordd effeithiol o weld cefngwlad Ynys Môn.

Mae yna ddigon o ddringfeydd cyson a llwybrau gwastad ar ein llwybrau i gadw'r teulu cyfan yn hapus. Ceir rhai dringfeydd serth achlysurol bydd yn sicr i gadw diddordeb y beiciwr difrifol.

Gweler hefyd

Crwydro Môn - Pecynnau gwyliau cerdded a beicio  

gwybodaeth ddefnyddiol

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Gweler hefyd Llwybrau beicio cefn gwlad Ynys Môn am fapiau, teithiau a syniadau defnyddiol.

Crwydro Môn - Gwyliau Beicio

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth