Stablau Haulfre

Un o greiriau'r amgueddfa
Er mai bychan yw'r amgueddfa mae hi'n hynod o ddiddorol - ynddi mae yna gasgliad rhyfeddol o harneisi a chyfrwyau Fictorian, certi a phob math o ddeunydd yn ymwneud â theithio o le i le gan ddibynnu ar y ceffyl. Mae'r cyfan wedi ei gadw mewn bloc stablau hanesyddol. Perthyn yr offer i oes fwy hamddenol pan roedd ceffyl yn hanfodol i bwrpas cludiant, amaethyddiaeth a halio nwyddau trymion.
Hanes Haulfre
Teulu'r Chadwick oedd preswylwyr y plasty hwn; gwnaeth y teulu arian mewn diwydiant a busnes yn ardaloedd diwydiannol gogledd Lloegr ond symudodd i ogledd Cymru i fwynhau bywyd plasty gwledig.
Yn y stablau cewch gyfle i weld amgylchiadau gweithio gweision y meirch, coetsmyn a gweision bychain y stabl - y nhw oedd yn gofalu am y ceffylau ac wrth law i weini ar y gŵr bonheddig yng nghefn gwlad.
Ceir hefyd gyfle i ymwelwyr brynu cynnyrch lleol a ffres (yn eu tymor mae yna ffrwythau, llysiau a blodau) o'r siop sy'n gwerthu cynnyrch o'r ardd.
Drwy drefniant yn unig. Er mwyn osgoi siom, rydym yn eich cynghori i wneud apwyntiad i ymweld a'r safle yma.