Gwestai, Gwestai Bychain a Thafarndai
Tre-Ysgawen Hall Country House Hotel & Spa, Llangefni
Wedi'i ddisgrifio fel 'gem gudd Môn' mae Treysgawen wedi'i leoli mewn aceri o erddi, dolydd a choetir wedi'u tirlunio a thaith car fer o arfordir prydferth dwyreiniol yr ynys. Mae dewis a switiau moethus, uwchraddol, gwelyau pedwar postyn gydag ystafelloedd ymolchi a jacuzzi.
Mae'r bwyty yn cynnig rhychwant o brydau cyffrous sy'n newid yn gyson ac yn defnyddio'r cynyrch lleol, rhanbarthol a thymhorol gorau. Bwydlen o fath Brasserie ynghyd â byrbrydau, coffi ayb, yn cael ei weini yn awyrgylch gwledig ac anffurfiol Caffi bar y Cloc Tŵr.
Gellir archebu Gwyliau Spa drwy'r flwyddyn. Mae Spa Tre-Ysgawen yn cynnwys pwll nofio un ar bytheg metr dec-gwastad, Ystafell ymarfer wedi ei hawyru, Ystafell Sawna, Whirlepool Spa Bath a Swît Harddwch / Therapi yn cynnig rhychwant gynhwysfawr o driniaethau Spa.
Ar gyfer Brecwastau Priodas a Sermoniau Sifil cewch ddewis rhwng y bychan a chlyd yn y capel neu'r Britannia, neu fwyta hyd at 140 o bobl yn y Swît Ystafell Wydr neu Swît Ynys Môn. Mae'r gerddi'n darparu cefndir perffaith ar gyfer lluniau priodas.
Mae ystafell cyfarfod unigryw ar gyfer Cynadleddau, Cyfarfodydd a hyfforddiant gyda mwyafswm o 200 o lefydd yn Swît Ynys Môn ar ddull theatre.
29 ystafell en-suite
Cyfleusterau
- cadair uchel ar gael
- cinio nos
- cot ar gael
- derbynnir cardiau credyd
- eiddo trwyddedig
- nofio
- parcio
- pecynnau arbennig / prisiau gostyngiedig thu allan i'r tymor - cynnigir gwyliau byr neu rhai canol wythnos
- pris neu llog grŵp/parti
- siaredir Cymraeg
- trefnir golff
- ystafelloedd llawr isaf